Cod d'olwg f'enaid fynu fry
Fy enaid cwyd dy olwg fry

(Cyfrifiad o bechodau ei bobl ar Grist)
Cod d'olwg, f'enaid, fynu fry,
A gwel yr Oen ar Galfari,
  Yn dyodde'n ddiddig ac yn fwyn,
  Wedi 'gondemnio er ein mwyn,

Edrychwch arno dyma'r Dyn,
A phwy oedd Ef ond Duw ei hun;
  Pechodau'r holl grediniol fyd
  A bwysodd ar ei 'sgwyddau 'nghyd.

O feiau mawr beth all'sech fwy
Na rhoddi i Frenin nefoedd glwy;
  Lladdasoch Ef - fe drodd y rhod,
  Mae dydd eich dial
      chwithau'n dod.

             - - - - -

Fy enaid cwyd dy olwg fry,
A gwel yn Oen ar Galfari;
  Creawdwr daear
      lawr a'r ne',
  Yn rhoi ei fywyd yn ein lle.

Edrychwn arno, dyma'r Dyn,
A phwy yw Ef, ond Duw ei hun!
  Pechodau'r holl druenus fyd
  A bwysant arno Ef yn nghyd.

O feiau mawr! beth all'sech fwy
Na rhoi i Frenin nefoedd glwy':
  Lladdasoch Ef! - fe drodd y rhod,
  Mae dydd eich dial
      chwithau'n dod.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
  Nailsworth (<1835)
Spires (Martin Luther 1483-1546)

gwelir:
  Cyfyngder mwya'n Prynwr rhad
  Does arnaf eisiau yn y byd
  Gwel ar Galfaria dyma'r dyn
  O feiau mawr 'beth all'sech fwy?
  Wrth edrych Iesu ar dy Groes

(Account of the sins of his people on Christ)
Raise thy gaze, my soul, up above,
And see the Lamb on Calvary,
  Suffering placidly and tenderly,
  Having been condemned for our sake.

Look ye upon him, behold the Man,
And who was he but God himself;
  The sins of all the created world
  Weigheddddd upon his shoulders altogether.

O great faults what could ye do more
Than give to the King of heaven a wound;
  Ye slew him - he turned the sky,
  The day of your own
      retribution is coming.

                 - - - - -

My soul, raise thy gaze above,
And see the Lamb on Calvary;
  The Creator of the earth
      below and heaven,
  Giving his life in our place.

Let us look upon him, here is the Man,
And who is he, but God himself!
  The sins of the whole wretched world
  Weight upon him altogether.

O great faults! what could ye do more
Than give the King of heaven a wound:
  Ye slew Him! - he turned the sky,
  The day of your own
      retribution is coming.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~